Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 12:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_17_07_2013&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Gwyn R Price Jenny Rathbone Rhodri Glyn Thomas Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lynsey Edwards, Llywodraeth Cymru Francois Samuel, Llywodraeth Cymru Simon White, Llywodraeth Cymru Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Royal Town Planning Institute Cymru David Morgan, Sefydliad Brenhinol y Syrefewyr Siartredig Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Isherwood. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.
2 Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Gwnaethant gytuno i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
ddulliau gweithio cwmnïau cyfleustodau o ran datblygiadau tai newydd a'u perthynas â chwmnïau adeiladu;
a yw datblygwyr llai o dan anfantais o'u cymharu ag adeiladwyr tai sy'n gweithio ar raddfa fwy yn genedlaethol ac a yw polisi cynllunio cenedlaethol yn anfanteisiol i ddatblygwyr canolig eu maint;
rhagor o wybodaeth am fancio tir ac effaith hynny ar gwmnïau adeiladu llai;
enghreifftiau o gyfraniadau oddi ar y safle.
3 Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:
rhagor o wybodaeth am y cynllun rhannu ecwiti a gynigiwyd, pan fydd ar gael;
nodyn am faint y cyllid preifat a godir gan gyrff trosglwyddo stoc a'r graddau y mae hynny wedi cymell gwaith adeiladu tai;
manylion am y prosiect swyddfeydd/ystafelloedd gwely i’w rhentu ym Mhrestatyn.
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud ag adennill meddiant tai annedd
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y canlynol:
hawliau statudol tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig.
6 Dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru – ystyried yr adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
7 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - ystyried y prif faterion
Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion, ac ystyrir adroddiad drafft yn ystod tymor yr hydref.
8 Blaenraglen Waith y Pwyllgor
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y blaenraglen waith.
9 Papurau i’w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
9.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin
9.2 Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 27 Mehefin
9.3 Gohebiaeth gan Bethan Jenkins AC
9.4 Gohebiaeth gan Ann Jones AC